venerdì, aprile 07, 2006

Prâg: pedigree chum, pw a pyrfs*

Wedi hir ymaros, trefnu gwael, egluro i Ellen nad oeddem yn medru mynd yno ar gwch ac esbonio i Gwenan nad oedd Prâg yn brifddinas Rwsia, fe gyrraeddom! Dychwelem yn meddwl, yn wir, bod Prâg yn lle gwych, er bod y pobl yn sych iawn. Iawn. Blog hirwyntog yn dyfod...

Dydd Llun. Fe gyrraeddom ni'n y Heaven Hostel yn y p'nawn a'r ddyletswydd gyntaf oll oedd ffeindio tafarn. Doedd hyn fawr o broblem, mewn difri, achos roedd 'na un rownd y gornel, y Sports Bar, neu'r local, fel y byddem ni'n ei alw o hynny ymlaen. Felly mi arhosem ni yno drwy'r dydd mwy na heb, yn y gornel. A dweud y gwir, dyna a wnaethom ni drwy'r gwyliau i gyd, ond ymlaen â'r stori!

Triais i mo Erektus, ond oeddwn i'n meddwl ei bod o'n enw eitha da am ddiod felly mi gymrais i lun ohono. Cawsom ni hyd i ryw fwyty oedd jyst lawr y stryd, oedd yn edrych fel rhyw ogof, felly mi aethon ni fewn i fanno. Un peth uda i am Prâg, mae'r bwyd yn styning, ond fe gafodd pawb cwrw a bwyd eitha ddi-fflach yno'r noson gyntaf oll, hynny yw dim ond steciau ac ati. Pan aethon ni yno'r ail nos (yn olynol. Typical!) fe driais i a Dyfed ostrij, sydd, cytunem, y bwyd gorau sydd gan Prâg i gynnig achos oedd o'n lyfli ac ddim yn blasu fel stec fel udodd pawb arall heblaw amdanaf i.

Ond ar y noson gyntaf ydw i, de? Wedi'r bwyd, yn lle mynd â darganfod y ddinas, aethon ni i'r local drachefn a disgwyl am Helen a Nick gyrraedd o Sheffield. Erbyn tua 11.00 fe lwyddem llusgo'n hunain i ffwrdd a mynd i mewn i dre. Dywedodd y gyrrwr tacsi imi beidio â boddran gwisgo'n gwregys diogelwch, ac i stripclyb aethon ni (sef 6 hogyn ac 8 hogan. Cafodd y genod mwy o sylw na ni. Oni bai dy fod yn talu amdano). Y sioc mwyaf oedd bod peint yn y lle ma'r un pris a'r Tavistock, a'n bod ni ddim yn hapus iawn talu amdani!!! Llwyddem ni ddim gyrraedd yr unman arall, so roedd yn rhaid inni ddisgwyl tan y bora wedyn i gael strip go iawn.


Yn wir, cyfuniad eithaf chwydlyd yw bra Ceren a boi o Gwalchmai ond dyna ni. Fe wnaethon ni ddiawl o sŵn yn y lle'r noson yna, a chael ffrae gan y gwesteion eraill a'r berchenoges (cyn imi ei thaflu hi ar draws y 'stafall yn meddwl mai Gwenan oedd hi. Cuddiais o dan flanced am bum munud wedyn).

Wel, wedi cyrraedd yno roedden ni'n eitha sydyn wedi disgyn i mewn i drwmgwsg. Heblaw Helen a Nick yn y dybl-bed drws nesaf, a doeddwn i'm angen hynny yn cysgu rhwng Dyfed a Kinch yn chwyrnu. Iawn, y diwrnod wedyn sy angen son amdani'n awr, de?

Heb wybod yr unman o'n cwmpas eshi efo Haydn (oedd yn hapus am gyfnod, ond yn cwyno fod pawb yn pigo arno drwy'r ffycin daith. Sy'n eitha teg achos oeddem ni), Dyfed (wedi gwisgo) ac Owain Oral (oedd yn mynnu bod y bagets o'r garej yn neis ond yn dweud clwydda) am sgowt i fynd i rwla am fwyd, a chawsom hyd i lle. Reit, deffro pawb a mynd. Cyrraedd yno, a'i boi yn dweud inni ddisgwyl tan bo un o'i ffrindiau oedd yn dallt Susnaeg yn cyrraedd. Roedd y boi hwn yn od iawn ond fe lwyddem ni ordro heb fawr o strach, er ei bod yn annifyr gorfod siarad Saesneg. Cymysg iawn yr oedd ein ymatebion, ond mi wnes i fwynhau be ges i, tra bo Haydn mond wedi cymryd un brathiad o'i un o felly mi lwgodd tan y nos.

Reit. Wel roedd o'n rhyw fath o ddyletswydd arnom ni gweld rhywfaint o'r ddinas, mashwr, felly aethon ni fewn at y sgwar, cael hyd i amgueddfa artaith a gwingo, a mynd i weld y cloc. Aparyntli oedd o'n gwneud rhywbeth gwych ar yr awr a roedd pawb yn ymgynnull o gwmpas, yn enwedig Eidalwyr swnllyd.


Os mae rhywun yn deutha chi fynd i Brâg peidiwch ac aros am awr i weld y cloc yn gwneud beth ma'n fod i wneud. Nis ymhelaethaf yn y gobaith yr ewch chi yno a disgwyl, ac oherwydd ma'n siwr fod pawb wedi stopio darllen y blogiad 'ma erbyn hyn beth bynnag. Eniwe oedd gynnon ni gynlluniau mawr felly fe euthum ni'n ein holau i'r local ac aros yno drwy'r nos. Na, go iawn. Hynny yw, aeth pawb arall i'w gwlâu ond arhosodd ambell un ohonom yno tan bump, mynd adra a thorri gwallt Haydn oedd yn flin iawn, cyn mynd yno drachefn. Ymhen rhyw hanner awr dim ond fi a Kinch oedd yn sefyll a doedden ni ddim am fynd i gysgu fel Dyfed ac Owain Oral (yn y bar) felly wedi inni gael ein gwrthod syrfio (diolch i fi'n chwydu) aethon ni i bar arall a dyma rhyw foi yn mynd a ni allan i'r stryd i gael mwg drwg. Ynghanol y stryd! Rwan, dw i'm yn un am wneud waci baci ond mae Kinch a roedd o'n dweud bod y stwff ma'n gryf iawn(cryfach na be mae'r un ohonom wedi cael o'r blaen), felly wedi inni fynd adra am tua hanner dydd roedden ni wedi hen wylltio pawb gan chwerthin yn ddi-stop ar ogofdrwyn Dyfed a bo gan Haydn wadnau fel Monster Munch.

NODYN: Cyn inni fynd ymlaen rhaid ichi gofio fy mod i heb gysgu lot o gwbl yno a bod y digwyddiadau oll ddim wirioneddol yn gronolegol yn y lleiaf. Dw i'm yn cofio lot o gwbl, dweud y gwir.

'Are you from a singing school?' - Rudi y boi bar

'No, we're just drunk and Welsh' - Ceren

Araf iawn oedd y diwrnod olaf mewn difri achos roedden ni wedi sylweddoli nad oedden ni wedi gwneud dim byd drwy'r gwyliau, a dim ond am tua pedwar o'r gloch llwyddem ni godi. Felly fe wnaethon ni benderfyniad cydwybodol i beidio gwneud dim a mynd at y Sports Bar. Yn anffodus roedd ein bwyty arferol ddim isho ni yno felly aethon ni i fwyty arall (un Eidalaidd myn uffarn i!). Cefais i siarc yno, sydd wedi diweddu mewn sawl cachiad a tin poenus iawn. Wedi hynny, ni chysgais i tan 28 awr wedyn, wrth inni adael y bar am wyth yn y bore yn canu bod gan Haydn STD gan gath. Ond dyna ddigon o straeon. Haws yn awr byddai crybwyll cyrraeddiadau ac uchafbwyntiau (neu isafbwyntiau, yn ôl traddodiad ffiaidd y blog hen) pawb yn ystod y daith.

  1. Fi'n bersonol. Peidio cysgu am ddeuddydd a dal llwyddo bwyta ostrij a siarc, sy'n gyfuniad od ar y cyfan
  2. Owan Oral. Mynnu bod Sgwar Prâg "yn fwy na Cathays" cyn mynd ymlaen i ddweud bod "yr Eidalwyr yn cael get awê gyda rhoi caws ar bysgod. Ond dydi'r Sbaenwyr ddim"
  3. Dyfed. Mynd i fwytai a thrin y gweinwyr fel plant ysgol efo anghenion arbennig, yn codi bawd arnynt a gwenu fel llo. A llwyddo ynganu popeth yn rong
  4. Kinch. Cysgu drwy'r gwyliau i gyd
  5. Haydn. Cael ei wallt i edrych yn waeth drwy gysgu a chael pawb yn cael go ar ei dorri i ffwrdd.
  6. Lowri Dwd. Yr unig un nath, er yr yfed 24/7, llwyddo i meddwi yn hollol gachu a mynnu ei bod yn crio yn hytrach na chwydu ei chorff allan
  7. Lowri Llew. "Shnakes. I'm sure I've heard that name before. Shnakes. Shnake shteak."
  8. Helen a Nick. Un dwbl achos roedden ni'n son am rhoi gwaed ac aparyntli ti'm yn cael gwneud os ti wedi cael rhyw twll din yn y chwe mis dwytha, cyn i Helen troi rownd i Nick a mynd, "O, fysa ni'm yn cael felly naf'sa?"
  9. Gwenan. Llwyddo i wneud ei gwallt mewn LLAI na awr!
  10. Lowri Cochen. Ordro 'garlic on grilled bread' yn meddwl mai bara garlleg oedd o. Yn wir, bara efo cloves llwyr o arlleg a gafwyd a doedd hi'm yn hapus iawn am y peth
  11. Ellen. Y person mwyaf tebygol o gwneud ffwl o'u hunain, a llwyddo peidio!
  12. Llinos. Dweud ei bod hi angen tits a blew
  13. Ceren. Cael noson o wneud caneuon fyny gyda fi, yn cynnwys yr enwog 'Hei ho, hei ho, awn i Sir Fôn am dro' oedd gyda ugain pennill oll yn wych.

Eniwe dyma fi adra yng Nghaerdydd efo sawl traethawd i'w wneud mewn wythnos ac am fynd rwan i chwilio am lle ga'i fyw blwyddyn nesa wedi imi gysgu am 13 awr. Hwyl fawr!


*Gwell hefyd byddai egluro teitl y blog yma. Mae Prâg yn cyfeirio at lle fuon ni ar wyliau. Mae pedigree chum yn cyfeirio ar sut mae traed Llinos yn oglau, efo'r pw yn son rhywfaint amdaf fi ond yn bennaf traed Llinos. Pyrfs? Wedi chwarae Never Have I Ever dwi'n fowtio pawb!

Nessun commento: