mercoledì, marzo 29, 2006

Isho meddwi

Ia wir dwisho meddwi. Dwisho mynd allan a meddwi'n gachu. Mae 'na crôl Gymgym heno ond dw i'm wedi mynd hyd yn hyn ond mi a'i wedyn dw i'n siwr. Disgwyl i Sion ffonio dw i. Ia wir.

Dydi'r byd heb newid rhyw lawer ers fy mlogiad diwethaf, 'blaw bod 'na rhyw lecsiwn yn yr Wrcrain a bo Cymuned wedi heijacio'r blogiadur. Dw i wedi bod yn arbrofi rhywfaint, hefyd. Nid un am arbrofi mohonof i, chwaith. Ond dw i wedi cael sbelen o hunan-hypnoteiddio.

Fel hyn mai. Oni'n bôrd 'chydig o dyddiau nôl dachi'n gweld, a fe borais y we cyn dod ar draws safle bach od. 'Wanwl!' medda fi, 'Gwefan am Llanfair Caereinion!' ond anghywir oeddwn a sylweddoli mai gwefan am hudoliaeth dywyll ydoedd (blacmajic). Fe allwn i'n awr codi'r marw a gwneud arian yn anghyfreithlon ond roedd 'na ran am sut i hunan-hypnoteiddio. Dw i'm i mewn i hudoliaeth (dw i digon hudolus fel ydw i hihihi), ond oeddwn i'n meddwl 'swn i'n cael go bach ar hwn. A mi weithiodd a dw i wedi bod yn gwneud cryn dipyn a datblygu fy nawn ers hynny. Ma'n deimlad rhyfedd, rhwng fod yn oleuedig a theimlo fel blamonj, a dw i'n hoffi teimlo fel'na pan ga i'r cyfle. O'r diwedd, mae fy uchelgais o fod yn jiraff yn awr yn bosib (a hynny heb llawdriniaeth poenus a chostus). Ond dw i'm am wneud hynny, chwaith, rhag ofn mi go iawn aros felly am byth.

Sut beth fyddai bod yn jiraff? Mae gennai dafod digon hir (sglyfath!) ond dydi hi ddim yn ddu a dydw i'm chwaith yn felyn. Dw i'n rhy stympi 'fyd. A 'sgen i fawr o awch byta dail drw'r dydd nac ychwaith byw yn Affrica (er fy mod i wedi bod i 'di pasio drw Merthyr Tudful unwaith). A wyddoch chi os disgynnith jiraff ni fedar hi godi yn ei hôl? Do, dw i wedi bod yn ymchwilio.

Dyma lun o jiraff. Nos da!

3 commenti:

Lili Lwyd ha detto...

swnio'n class dwd, be di cyfeiriad?

Lili Lwyd ha detto...

class jas! be di cyfeiriad?

Hogyn o Rachub ha detto...

http://www.spellsandmagic.com/hypnotism.html

Gobeithio gei di rwbath allan ohoni! Ond ma 'na ddigon o betha os ti jyst yn teipio 'self-hypnosis' i mewn i Gwgl 'fyd!