domenica, gennaio 22, 2006

Breuddwydio am Meic Stevens

Yn ddiweddar dw i wedi bod yn breuddwydio lot, ond llawer mwy na'r arfer. Neithiwr mi gefais gyfres o thair breuddwyd sy'n glir yn fy meddwl hyd yn hyn felly mi 'sgwennaf i amdanynt yn y gobaith y bydd rhywun ohonoch yn medru eu dadansoddi imi...

  1. Roeddwn i wedi mynd a dechrau fy nghwrs TT yng Nghaerdydd, ac am rhyw reswm un o'm athrawon Technoleg o ysgol oedd yn gyfrifol amdani. Doeddwn i heb gael llythyr i ddweud fod yn rhain imi dalu £171 i fynd i Gastell Caerdydd am drip, ac oeddwn i'n gytud felly dyma fi'n mynd yno fy hun (roedd Ellen yn flin gyda mi achos roeddwn i wedi anghofio fy mhres cinio). Wel, dyma fi'n cyrraedd a phwy oedd yno i'm gwadd ond Ceren a Lowri Dwd, a dyma Ceren yn trio cal fi a Lowri Dwd i fynd efo'n gilydd ond penderfynem ni wisgo fyny yn lle.
  2. Hwn oedd y freuddwyd gwirion. Roeddwn i wedi mynd i gartref Meic Stevens. Roedd o fel un o'r tai Redneck 'na ydach chi'n gweld ar y teledu, efo cadair siglo tu allan a ballu. Roedd y lle yn tip afiach, a dyma Meic yn fy ngadael a mynd i ffwrdd felly dyma fi'n cael sgowt a ffeindio tenar. Trodd Hwntw o ddynes barchus i fyny at y drws a dyma hi'n egluro mai hi oedd cyn-wraig Meic a'i bod wedi ei ffonio i edrych ar fy ôl. Ond dyma Meic yn cyrraedd hefyd ar y tram (!) ac yn dod i'r tŷ a chael brechdan wrth ffraeo efo'r cyn-wraig.
  3. Yn olaf, dyma fi ym Methesda, ond mae'r lle wedi newid rhywfaint yn y freuddwyd achos roedd Y Bwl yn enfawr ac yn rhyfedd felly dyma fi'n mynd i siop souveniers (sydd lle mae'r King's Head) a edrych rownd. Roedd 'na oriadau arbennig wedi eu crefftio gan 'Gwynfor Owen, Coetmor' (dim syniad). Dyma fi'n prynu papur y Daily Star fodd bynnag a'i darllen, dim ond i ffeindio bod band o hoywon o Florida wedi cyrraedd brig y siartiau gyda'u 'controversial lyrics'.

1 commento:

Wierdo ha detto...

Pam fod lliwiau'r blog yn nyts. Man neud hi'n anodd iawn iw ddarllen. hrrrrmmff

o, a gyda llaw. Man rhaid fod breuddwydion od yn yr aer. Dwinna di bod yn cal lot o rai od yn ddiweddar. Dwin cofio dim blaw bonwn od!