sabato, gennaio 21, 2006

Adra ac yn bord

Iawn dyma fi adra'n Rachub unwaith yn rhagor, a dw i'm am wneud dim am wythnos. Dw i'n methu Clwb Ifor heno a dw i'n eitha ypset achos mae gen i flys am alcohol. Ond dydw i ddim am yfed am wythnos eithr wyf am fyw bywyd iachus iawn am y diwrnodau nesaf.

Roedd y daith i fyny'n flinedig iawn, mwy na'r arfer achos fe roedd hi'n ddwl, ond fuodd hi'n braf galw draw yn Llanllyfni a gweld Morfudd wedi mynd yn dew yn disgwyl babi (wrth wylio Uned 5 a darllen englynion Llywarch Hen).

Yma i ben-blwydd fy chwaer ydw i. Mae hi'n dathlu yn Rhyl mewn wythnos. RHYL! Wel tydw i'n ffycin edrych ymlaen am nait owt yn Rhyl! Mae hi 'di bwcio gwesty a ballu efo rhywun arall am ben-blwydd ar y cyd a mi fydda i yno'n sobor yn gorfod gyrru Nain adra. Mae nhw'n mynd i glwb nos wedyn. You going to come out clubbing with us? gofynnodd y chwaer. "Nacydwyf," dywedais, "dw i ddim isho mynd i unrhyw glwb yn sobor, dw i'm isho mynd i Rhyl a dw i'n bendant ddim isho mynd o amgylch unrhyw le efo rhyw ddilincwants meddw a sgalis arfodir gogledd Cymru." Neu rhywbeth tebyg.

Felly dyma fi adra heb ddim i'w wneud. Yn union fel Caerdydd ers ychydig achos mae bron pawb arall yn gwneud gwaith. Ond mi a fethaf heno; Haydn yn cysgu, Dyfed yn dawnsio ac yn gweiddi 'rym!', Lowri Dwd yn ffeindio boi hen i fachu, Llinos yn disgyn (ar ol bachu), Lowri Bach yn bod yn gawslyd (wrth fachu), a minnau jyst ym mudreddi Clwb.

O! Mor unig myfyrwir oddi-wrth brifysgol!

Nessun commento: